Cyflwyniad ysgrifenedig wrth Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yn dilyn cais y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am wybodaeth i lywio sesiynau tystiolaeth ar 7 Mehefin 2018

 

Mae'r dystiolaeth a ddarperir isod yn cael ei gyfwyno i ymateb i gylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad hwn, sef:

·           Cael dealltwriaeth o strwythur a swyddogaethau y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

·           Archwilio effeithiolrwydd y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a'r adnoddau a chapasiti.

·           Casglu tystiolaeth am faterion neu rwystrau sy'n gallu effeithio ar weithio'n effeithiol, ac enghreifftiau o arfer da ac arloesedd.  

 

 

Aelodaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Ceredigion

 

Sefydlwyd BGC Ceredigion ym mis Ebrill 2016 ac mae'n rhaid iddo wella Llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Ceredigion trwy gyfrannu at y gwaith o gyflawni'r Nodau Llesiant Cenedlaethol.  Mae aelodaeth BGC Ceredigion yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o'r sefydliadau canlynol:

 

Cyngor Sir Ceredigion; Cyfoeth Naturiol Cymru; Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru; Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion; Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Llywodraeth Cymru; Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru; Gwasanaeth Prawf; Un Llais Cymru; Heddlu Dyfed Powys; Yr Adran Gwaith a Phensiynau; Prifysgol Aberystwyth; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Coleg Ceredigion

 

 

Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion

 

Mae’r Cynllun Llesiant Lleol wedi ei selio ar ddwy Egwyddor Arweiniol a Chwe Amcan Llesiant sy’n cael eu hamlygu yn y llun ar y dudalen nesaf ac mae copi llawn o’r Cynllun ar gael yma


 

 

 

 


 


Strwythur Partneriaethau Ceredigion

 

Er mwyn sicrhau bod y strwythur partneriaethau ar draws ys Sir yn addas i bwrpas ac wedi ei strwythuro yn y ffordd gorau posib i weithredu’r Cynllun Llesiant Lleol, cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o’r partneriaethau ar draws Ceredigion yn ystod 2017. 

 

O ganlyniad i’r adolygiad, caiff y strwythur partneriaethau blaenorol ar draws y Sir ei ddisodli gan 6 Grŵp Prosiect (i'w Cadeirio gan aelodau sy'n bartneriaid o'r BGC) er mwyn cyflawni pob un o'r Amcanion Llesiant sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Llesiant Lleol yn benodol.  Fydd amrywiaeth eang o fforymau trawsbynciol yn cefnogi'r BGC a’r Grwpiau Prosiect. Bydd y Grwpiau Prosiect yn dod yn uniongyrchol o dan drefniadau llywodraethu'r BGC, gan ganiatáu i'r fforymau fabwysiadu dull gweithredu mwy hyblyg drwy roi'r gallu iddynt adrodd ynghylch eithriadau ac uchafbwyntiau i'r BGC. Gall y BGC gyflawni unrhyw swyddogaethau statudol sy'n ofynnol os bod angen.

 

Bydd pob Grŵp Prosiect yn cael ei gadeirio gan gynrychiolydd o blith un o bartneriaid y BGC. Gan ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar agenda strategol, bydd aelodaeth y grwpiau yn cynnwys y cynrychiolwyr ar draws y sefydliadau sydd ag iddynt y statws priodol ond bydd yn hyblyg o ran medru cynnwys y swyddogion a'r staff cywir ynghyd ag eraill (y cyhoedd a grwpiau buddiannau arbennig) er mwyn cydgynhyrchu gwasanaethau a'u darparu mewn modd effeithiol.  Gweler y diagram ar y dudalen nesaf sy’n amlinellu’r strwythur newydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Effeithiolrwydd y Bwrdd a’r drefn i’r dyfodol

 

Mae hanes a thraddodiad cryf o weithio mewn partneriaeth wedi ei feithrin yng Ngheredigion ers cyfnod y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.  Bu i’r bwrdd hwnnw gyflawni’r Cynllun Integredig Sengl sydd wedi bod yn sail gadarn i symud ymlaen i ddatblygu a gweithredu Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion.

 

Wrth ddatblygu’r Cynllun Llesiant Lleol fe wnaeth BGC Ceredigion adnabod mae nid dull gweithredu 'busnes fel arfer‘ sydd ei angen wrth symud ymlaen.  Mae’r Cynllun sydd wedi ei gytuno yn cynnig newid sylweddol yn y ffordd y gall sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Ngheredigion gydweithio er mwyn ychwanegu gwerth at yr hyn sy’n cael ei wneud yn barod.  Mae pwyslais ar gydweithio go iawn a'r camau hynny na fyddent yn cael eu cymryd os na fyddai’r Bwrdd yn dod ynghyd.  Mae’r Bwrdd yn cydnabod yr angen i newid ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny.

 

Mi fydd yr unigolion canlynol yn Cadeirio Grwpiau Prosiect y Bwrdd a fydd yn mynd ati i weithredu’r Cynllun Llesiant Lleol.  Credwn fod hyn yn cynrychioli ffordd arloesol o weithredu sy’n tystiolaethu parodrwydd y Bwrdd i weithio mewn ffyrdd newydd.

 

Grŵp Prosiect

Cadeirydd

Menter ac Arloesedd

Eifion Evans, Cyngor Sir Ceredigion

Deall ein Cymunedau

Hazel Lloyd Lubran, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion

Newid Hinsawdd ac Adnoddau Naturiol

Ben Wilson, Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyd-leoli ac Integreiddio Gwasanaethau Rheng Flaen

Iwan Cray, Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth o Gorllewin Cymru

Hyfforddiant Cydnerthedd

Rhodri Llwyd Morgan, Prifysgol Aberystwyth

Atebion Cymdeithasol a Gwyrdd ar gyfer Iechyd

Ros Jervis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

Mae’r Grwpiau Prosiect yn cael eu sefydlu ar hyn o bryd ac mi fydd pob un yn datblygu Cynllun Prosiect penodol yn amlinellu eu gwaith i gyflawni’r Cynllun Llesiant Lleol.

 

Mae’r costau rheoli a chefnogi ar gyfer y BGC a’r Grwpiau Prosiect yn parhau i gael eu darparu gan Gyngor Sir Ceredigion.

 

Gan fod y Cynllun Llesiant Lleol newydd ei lansio a bod y strwythur partneriaethau yn newydd byddwn mewn gwell sefyllfa ymhen y flwyddyn i fedru adrodd ar unrhyw faterion neu rwystrau sy'n gallu effeithio ar weithio'n effeithiol ynghyd ag adnoddau a chapasiti.  Wrth baratoi’r Adroddiad Blynyddol cyntaf ar y Cynllun Llesiant Lleol byddwn yn amlygu esiamplau o arfer dda ac yn hyrwyddo’r cyfleoedd i arloesi ar draws y Sir.